Trefn y Dydd
Bore : Dosbarth Cefneithin a Llyn Llech Owain 9:00 – 11:45yb
Dosbarth Mynydd Mawr a Chwm Gwendraeth 9.00 – 12.10yp
Prynhawn : Dosbarth Cefneithin a Llyn Llech Owain 1:00 – 3:15yp
Dosbarth Mynydd Mawr a Chwm Gwendraeth 1:00 – 3:20yp
Mae’r ysgol yn agor i’r disgyblion am 8.45yb ac yn dechrau yn brydlon am 9:00yb
Disgwylir i rieni arwyddo llyfr gan nodi rheswm am hwyrddyfodiad pan fo’u plentyn yn cyrraedd yn hwyr gan fod yr ysgol yn tracio prydlondeb.
Mae hwyrddyfodiad yn tarfu ar y dosbarth ac ar waith unigol y disgybl. Bydd yr Awdurdod Addysg Lleol yn cael eu hysbysu o hwyrddyfodiad aml.
Fe’ch atgoffwn chi nad yw hi’n bolisi i dderbyn plant cyn 8:45 y.b. Ni fydd yr Ysgol na’r Awdurdod Addysg yn gyfrifol am les a diogelwch plant cyn yr amser hyn. Os ydy plant yn cyrraedd ysgol cyn yr amser hyn mae’n hanfodol bod rhieni yn eu trosglwyddo yn ddiogel i’r Clwb Brecwast.