Clwb Brecwast

Gwasanaeth hanfodol i rieni sy’n mynd i’r gwaith yn gynnar. Rydym yn darparu amgylchedd diogel i ddisgyblion, ynghyd â brecwast maethlon. Mae brecwast ar gael o 8:00y.b. tan 8:30 y.b. Mae’n hanfodol i ddisgyblion fynychu’r Clwb Brecwast os ydynt yn cyrraedd yr ysgol cyn 8:30 y.b.