EIN GWELEDIGAETH TECHNOLEG GWYBODAETH a CHYFATHREBU
Anelwn yn Ysgol Cefneithin i ddefnyddio holl agweddau TGCh i symbylu, ymrwymo ac ysbrydoli disgyblion, rhieni, llywodraethwyr ac athrawon i hybu’r dysgu a’r addysgu yn a thu hwnt i gyffiniau’r ysgol. Rydym am i’n holl staff a’n disgyblion i fod yn ddefnyddwyr TGCh hyderus, cymwys ac annibynnol gyda’r gallu i addasu eu sgiliau i gwrdd a datblygiadau technolegol newydd.